Contacts
Fferm Cwellyn
Rhyd Ddu
Caernarfon
Gwynedd
LL54 7YS
[ff] 01766 890496
[s] 07903212023
[e] cliciwch yma
Newyddion & Cynigion
Newyddion & Cynigion Diweddaraf
Sylwadau Cwsmeriaid
i ddilyn yn fuan...
Croeso i Llety Hunanarlwyo Fferm Cwellyn Farm
Dyma eiddo sydd wedi ei drosi o’r hen feudy gwreiddiol sydd yn dyddio yn ôl i’r 16eg ganrif i fwthyn clyd a chyfforddus.
Ceir olion o’r hen feudy yn y llofftydd gyda’r hen ddistiau a’r ffenestri main yn un o’r llofftydd.
Mae’r ardal o gwmpas sef ardal Rhyd Ddu yn un o harddwch naturiol gyda ‘r Wyddfa a’i chriw yn gefndir gogoneddus i’r lle.
Gwelir Rheilffordd yr Ucheldir sydd yn rhedeg o Gaernarfon i Borthmadog o gefn yr eiddo a Llyn Cwellyn gyda’i fachlud haul godidog o flaen yr eiddo.
Mae’r eiddo ychydig o’r ffordd A4085 rhwng Caernarfon a Beddgelert rhyw filltir o bentref Rhyd Ddu a anfarwolwyd gan y bardd T H Parry Williams.
Bydd croeso cynnes i chwi yma drwy’r flwyddyn.
Lleoliad
Lleolir yr eiddo ar yr A4085 rhwng Caernarfon a Beddgelert ychydig i fyny’r ffordd o Lyn Cwellyn.
Os yn dod o gyfeiriad Beddgelert mae’r eiddo rhyw filltir i lawr y ffordd o bentref Rhyd Ddu.
Mae’r eiddo fwy neu lai wrth droed yr Wyddfa ac mae’r golygfeydd o gefn yr eiddo tuag at yr Wyddfa yn rhai godidog. Gwelir y tren bach yn dringo’n araf i’w chopa yn llawn teithwyr.
Hefyd gellir gweld tren bach yr Ucheldir sydd yn trafaelio o Gaernarfon i Borthmadog ac o Borthmadog yn ôl i Gaernarfon .
Os am deithio ar y tren mae stesion Rhyd Ddu i fyny’r ffordd yn y pentref neu ceir gwasanaeth bws sherpa i’ch cludo i’r trefi/ pentrefi cyfagos.
Mae’r eiddo yng nghanol byd natur ar ei orau gyda digon o fywyd gwyllt o gwmpas.



